Pwy ydy pwy

Ymddiriedolwyr

Eryl Bray - Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr

Roedd Eryl yn un o aelodau gwreiddiol DASH. Ar y pryd roedd hi newydd symud i’r ardal fel Ymwelydd Iechyd ifanc a gofynnodd grŵp o rieni plant anabl iddi eu helpu i sefydlu grŵp hunangymorth. Yn ystod ei gyrfa fel Ymwelydd Iechyd roedd bob amser yn angerddol dros weithio gyda phlant anabl a chefnogi rhieni. Yn ogystal â bod yn Ymwelydd Iechyd hyfforddodd fel gweithiwr Portage a Goruchwylydd Portage yn gweithio gyda phlant cyn-ysgol ag oedi datblygiadol a’u rhieni. Yn ystod y cyfnod hwn ysgrifennodd hefyd “Arweiniad i rieni plant anabl yng Ngheredigion” dwyieithog yn amlinellu pa gymorth a budd-daliadau oedd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol. Ym 1991 penodwyd Eryl yn Rheolwr y Tîm Plant Anabl a elwid bryd hynny yn Dîm Cymorth Teuluol. Roedd y tîm yn un o’r timau gweithwyr allweddol amlasiantaeth cyntaf yng Nghymru ac roedd yn seiliedig ar ymchwil a wnaed gan Brifysgol Bangor. Mae Eryl bellach wedi ymddeol ac mae ganddi amser eto i weithio gyda DASH fel Ymddiriedolwr.

Tina Sherrington – Ysgrifennydd Anrhydeddus

Yn frwd ynglŷn a datblygiad a chefnogaeth pobl ag anableddau ac ar ôl ymddeol yn ddiweddar a symud i Geredigion mae Tina yn gyffrous i ymuno â DASH fel Ymddiriedolwr. Treuliodd Tina 10 mlynedd yn gweithio i’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn y sector anabledd. Bu’n hunangyflogedig am 10 mlynedd ac yna treuliodd 20 mlynedd gyda sefydliad ariannol mawr lle roedd ei rôl yn canolbwyntio’n bennaf ar les y gweithwyr. Roedd ei ffocws yn benodol ar gefnogi gweithwyr ag anableddau a chyflyrau iechyd hirdymor yn y gweithle.

Andrew Moore – Ysgrifennydd AnrhydeddusAndrew Moore – Ysgrifennydd Anrhydeddus

Ymddeolodd Andy i ymgymryd â’r her o redeg tyddyn yng Ngheredigion wedi iddo gychwyn a rhedeg practis Cyfrifeg fach am 15 mlynedd gyda’i wraig, Mary, ar ôl gyrfa ym maes cyllid a rheoli prosiectau gyda’r Post Brenhinol.  Yn ôl ar ddechrau’r 1980au bu Andy yn gweithio fel athro sgiliau bywyd i ymadawyr ysgol ag anghenion addysg arbennig a daeth â’i yrfa i ben, yn lleol, fel gweithiwr cymorth, yn gyntaf mewn gofal cartref ac yna mewn cartref gofal.

Gill Harries

Yn gyfrifol am godi arian, Cadeirydd penwythnosau DASHAWAY.

Ar ôl gweithio am flynyddoedd lawer fel Gweithiwr Cymdeithasol mewn timau gwahanol, aeth Gill ymlaen i weithio ar Dîm Plant Anabl Ceredigion a bu iddi ymddeol ar ôl gweithio am 20 mlynedd ar y tîm hwnnw. Hi oedd yn gyfrifol am y Gwasanaeth Seibiant Byr sy’n cefnogi plant a phobl ifanc anabl a’u teuluoedd yn yr ardal. Roedd Gill yn dymuno parhau â’r gefnogaeth honno drwy ymuno ag ymddiriedolwyr DASH ac mae’n ymwneud â chodi arian ar gyfer yr elusen.

Gareth Lloyd James

Mae Gareth yn dad i ferch sydd wedi elwa’n fawr o gefnogaeth DASH ers blynyddoedd lawer bellach. Mae’n byw gyda’i deulu yn ardal Aberystwyth lle bu’n athro cynradd ers ugain mlynedd.

Cathy McKenzie

Bu Cathy yn gweithio am dros 20 mlynedd fel nyrs Oedolion/Pediatrig yng Ngheredigion a Phowys.  Am 15 o’r blynyddoedd hynny bu’n gweithio gyda phlant ag anableddau a’u teuluoedd yn y gymuned. Am gyfnod roedd Cathy wedi ei lleoli gyda’r TPA yn Aberystwyth ac yn gweithio’n agos gyda DASH.

Amelia Campbell

Yn wreiddiol o Aberystwyth, ond bellach wedi lleoli ym Mryste. Mae Amelia wedi gweld y gwaith anhygoel y mae DASH yn ei wneud a sut mae o fudd i bobl ifanc wrth i’w brawd fynychu gweithgareddau  pan oedd yn iau. Mae Amelia yn angerddol am rymuso a chefnogi pobl i gyrraedd eu potensial.

Hilary Eldridge

Bu Hilary yn gweithio i Fwrdd Iechyd Hywel Dda mewn amrywiaeth o swyddi gweinyddol am dros 25 mlynedd. Am yr 16 mlynedd diwethaf bu’n Ysgrifennydd Tîm Plant Anabl yn cefnogi’r tîm a’r teuluoedd.

Staff

Ben Freeman – Rheolwr DASH

Ben yw rheolwr DASH. Bu’n byw yng Ngheredigion y rhan fwyaf o’i oes ac wedi gweithio am y tro cyntaf i DASH yn 2001 a 2002 fel arweinydd Cynllun Teen Scheme. Ers hynny mae wedi gweithio mewn rolau amrywiol yn cefnogi plant a theuluoedd ledled Ceredigion. Ben yw’r Unigolyn Cyfrifol dynodedig ar gyfer Gwasanaeth Cofrestredig Penwythnosau i Ffwrdd DASH.

Gail Young - Cydlynydd Cynlluniau

Gail yw cydlynydd cynlluniau DASH Ceredigion. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am Gynlluniau Chwarae, Diwrnodau Gweithgareddau, neu unrhyw ddigwyddiadau eraill y mae DASH yn eu trefnu, neu rydych chi’n meddwl y dylid gael eu trefnu, mae croeso i chi gysylltu â hi yn swyddfa DASH Ceredigion.

Joe Ansted - Gweinyddwr Tîm

Joe yw gweinyddwr DASH ers mis Hydref 2020. Yn wreiddiol o Lundain, symudodd Joe i Aberaeron yn 2007. Mae wedi gweithio mewn amryw o swyddi gweinyddol.