Mae DASH Ceredigion yn grŵp lleol a grëwyd gan rieni ar gyfer rhieni i gefnogi teuluoedd plant anabl yng Ngheredigion. Gyda’n gilydd, rydym yn anelu at wella ansawdd bywyd i bawb sy’n gysylltiedig, a rhoi ymdeimlad o gyflawniad a mwynhad.
Mae DASH yn darparu:
Cynlluniau Cefnogaeth Chwarae ar gyfer diwrnodau hwyl brodyr a chwiorydd.
Cyfle i rieni gyfeillachu a dyddiau rhannu gwybodaeth.
Dyddiau hwyl.
Cyfleoedd gwirfoddoli.