Mae rhain ar gyfer rhai 14 – 25 oed.
Mae’r prosiect UNO ar gyfer unrhyw berson ifanc sydd ag anabledd rhwng 14 – 25 oed sy’n byw yng Ngheredigion. Mae’r prosiect yn ymwneud â ymgysylltu i ddatblygu hyder ac annibyniaeth. Mae byngalo sydd yn gwbl hygyrch ac yn agos i Aberystwyth wedi cael ei gyfrannu gan Cantref, un o’r partneriaid gyda Crossroads Gofal Canolbarth a Gorllewin Cymru sydd yn rhoi cymorth gofal. Bydd hyn yn ein galluogi i ddarparu arosiadau preswyl lle y gallwn ddysgu sgiliau bywyd, gweithdai a gweithgareddau i hyrwyddo annibyniaeth, a diwrnodau i’r teulu gan rannu a dysgu oddi wrth ei gilydd.
Cysylltwch gyda Pamela Marsden am rhagor o wybodaeth:
Rhif Ffôn: 07872 165082
Ebost: tlpc@dashceredigion.org.uk