Amdanom ni

Datganiad Cenhadaeth 

 

Mae DASH yn grŵp lleol yng Ngheredigion a grëwyd gan rieni ar gyfer rhieni, sy’n cefnogi teuluoedd plant anabl. Gyda’n gilydd, ein nod yw gwella ansawdd bywyd pawb dan sylw gan roi ymdeimlad o foddhad a mwynhad.

Ein Nodau: pa wahaniaeth rydym am ei wneud yn DASH Ceredigion?

Ein nod yw darparu cefnogaeth i’r teulu cyfan yn ogystal â meithrin cydweithrediad a chyfeillgarwch ar y cyd.

Cynnwys pobl ifanc anabl a’u brodyr a’u chwiorydd mewn dewisiadau amgen adeiladol i aros gartref.

Helpu pobl ifanc anabl i gael mynediad i’r gymuned leol a defnyddio cyfleusterau cymunedol.

Galluogi pobl ifanc anabl i wella eu hyder a’u helpu i ymarfer eu sgiliau cymdeithasol.

Darparu gwyliau byr i’r teulu, rhieni a gofalwyr yn ystod gwyliau ac amser hamdden y plant.

I gyfeirio a chyfarwyddo brwdfrydedd ac egni gwirfoddolwyr lleol sy’n cynorthwyo gyda’r gweithgareddau.

Ein nod yw cynnig gweithgareddau hamdden priodol ar gyfer oedran a gallu ar gyfer plant a phobl ifanc anabl.

Ein Hanes

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

1970au

Dechreuodd HASH fel llyfrgell deganau. Yn 1979, anfonwyd llythyr at rieni plant a gofrestrwyd gyda’r Tîm Cymorth i Deuluoedd (Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol) – y cylchlythyr cyntaf i bob pwrpas. Roedd HASH yn cael ei weithredu gan rieni a gweithwyr proffesiynol yn wirfoddol, ac ar agor ar ôl oriau ysgol.

1980au

Dechreuodd y cynlluniau chwarae, gydag un cynllun yn Aberystwyth yn ystod gwyliau’r Pasg a’r haf. Cydlynydd rhan-amser ar gontract 4 mis oedd yr aelod cyntaf o staff. Ar yr adeg yma, yr unig ffynhonnell arian oedd Plant Mewn Angen y BBC a gwirfoddolwyr oedd yn rhedeg y gweithgareddau.

Roedd cyfarfodydd rhieni rheolaidd yn cael eu cynnal, yn canolbwyntio ar faterion penodol. Cyn i’r rhyngrwyd ddod ar gael fel ffynhonnell wybodaeth, roedd gwir angen am unrhyw wybodaeth a allai eu cefnogi i helpu eu plant anabl.

1990au

4 cynllun yn gweithredu ar gyfer pob oedran ac yn cynnwys plant anabl a phlant gyda “anghenion cymdeithasol”. Roedd y rhain yn cynnwys Llanbedr Pont Steffan, Aberystwyth ac Aberaeron.

Dechreuodd prosiect CHIPS ar gyfer brodyr a chwiorydd.

Clybiau ar ôl Ysgol yn cael eu cynnal yng Nghastell newydd Emlyn ac Aberystwyth.

Gwahanwyd y cynlluniau chwarae pan yn 11 oed, a dechreuodd y cynllun ‘Teen Scheme’ ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau.

Dechreuodd Prosiect Un-ac-Un, oedd yn cysylltu pobl anabl 16-25 oed i gael mynediad at gyfleusterau hamdden gyda chymorth gwirfoddolwyr.

Trodd  HASH yn DASH.

Dechreuodd Penwythnosau Ffwrdd Dash gyda grant o £300 gan Mencap.

2000au

Newidiodd ffocws y cynlluniau i ddarparu ar gyfer plant anabl a’u brodyr a’u chwiorydd yn unig.

Bu newid ffocws i’r Cynllun Teen Scheme – nid oedd bellach yn seiliedig ar leoliad

Dechrau Cyllid Cymorth – Cynlluniau Chwarae a CHIPS

Cymerodd DASH gyfrifoldeb dros a chychwyn, Frendzabout, clwb ieuenctid arbenigol symudol sydd yn hyrwyddo annibyniaeth a lleihau unigedd.

Trosglwyddo y prosiect Ymuno i DASH

2010au

Ariannodd Cronfa y Loteri Fawr, brosiect UNO ar gyfer pobl ifanc 14-25 oed yn y cyfnod pontio, mewn byngalo a addaswyd yn arbennig ger Aberystwyth.

Cofrestriad Elusen ac Adroddiadau Blynyddol

CIO (Sefydliad Corfforedig Elusennol) yw DASH Ceredigion. Rhif cofrestru yw 1163672.

Mae ein holl adroddiadau Rheolwyr ac Ariannol blynyddol i’w gweld ar wefan y comisiwn elusennau.