Gweithwyr Chwarae Gwirfoddol
Dewch â hwyl i’n cynlluniau
Mae gwirfoddolwyr yn help mawr i staff y cynllun ac yn helpu i gynnal y lefelau hwyl yn ein cynlluniau chwarae ar gyfer plant 4-11 oed a Diwrnodau Gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc 12-25 oed a sesiynau eraill. Bydd yr holl hyfforddiant a chefnogaeth yn cael eu darparu.
Cyfeillion DASH
Codi arian ac ymwybyddiaeth
Mae gwirfoddolwyr yn ein helpu i godi arian ar gyfer DASH. Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi helpu i gefnogi’r sefydliad.
Diwrnodau casglu mewn archfarchnadoedd lleol, helpu mewn digwyddiadau, Codi arian trwy weithgaredd noddedig yr ydych yn ei fwynhau.
Gwerthfawrogir pob cefnogaeth yn fawr..
Ymddiriedolwyr
Helpu i arwain yr elusen
Mae ymddiriedolwyr yn arwain ac yn rhedeg yr Elusen ac yn gwneud yn siŵr ei bod yn gwneud yr hyn y dylai. Mae Ymddiriedolwyr DASH yn cyfarfod yn ffurfiol 4 gwaith y flwyddyn, ond yn aml yn anffurfiol yn fwy rheolaidd, neu i gefnogi’r elusen.
Ymgynghorwyr
Cynnig gwybodaeth arbenigol
Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o ddatblygu ein helusen. Os oes gennych chi wybodaeth arbenigol mewn cyllid, datblygu busnes, rheoli gwirfoddolwyr, cysylltu gyda’r gymuned ac eisiau cefnogi Plant anabl yng Ngheredigion, byddem wrth ein bodd yn tyfu tîm o unigolion profiadol sy’n fodlon defnyddio eu profiad i roi barn anffurfiol i’r ymddiriedolwyr. ynghylch rhedeg DASH.
Ymunais fel Ymddiriedolwr er mwyn helpu DASH i barhau i ddarparu’r cynlluniau hynod werthfawr a gynigir i blant ag anableddau a’u teuluoedd yng Ngheredigion.

Yn aml mae gennym rai cyfleoedd cyflogaeth ar gael. Gweler ein tudalen Swyddi.
Newyddion Gwirfoddoli
Gweld beth mae ein gwirfoddolwyr wedi bod yn ei wneud:
No Results Found
The page you requested could not be found. Try refining your search, or use the navigation above to locate the post.