Beth rydym ni’n ei wneud

Graph showing age ranges for each scheme.

Playshcemes 4-12

Activity Days 12-24

DASH Away Weekends 8-18

FrendzAbout 12-25

Ymyno 4-12

Cynlluniau chwarae – 4-11 oed

Mae’r cynlluniau chwarae’n cynnwys llawer o weithgareddau hwyliog a gwibdeithiau i’r plant fel marchogaeth, nofio, ymweliad a Pharc Fferm Ffantasi a theithiau i’r traeth i enwi ond rhai. Gall brodyr a chwiorydd hefyd fynychu.

Pryd – Gwyliau ysgol Ceredigion

Adroddiadau

Haf 2023

Haf 2023

Mae DASH yn cynnal cynlluniau Haf eto eleni. Bydd gwybodaeth am hunangyfeirio i’n cynllun chwarae a diwrnodau gweithgaredd yn cael ei e-bostio gan Gymorth Estynedig (TPA a CTLD), y Tîm Iechyd Anabledd Plant (CDHT) a’r Tîm o Amgylch y Teulu (TAF). Cysylltwch â’ch...

Diwrnodau Gweithgareddau – 12-25oed

Grwpiau bach o bobl ifanc a staff cymorth yn mynd ar deithiau undydd. Gall y bobl ifanc ddewis ble hoffent fynd a beth hoffent ei wneud. Dewisiadau poblogaidd yn y gorffennol oedd Oakwood, Excel Bowls, Nofio, Marchogaeth a theithiau i’r Sinema.

Pryd – Gwyliau ysgol Ceredigion

Adroddiadau

Haf 2023

Haf 2023

Mae DASH yn cynnal cynlluniau Haf eto eleni. Bydd gwybodaeth am hunangyfeirio i’n cynllun chwarae a diwrnodau gweithgaredd yn cael ei e-bostio gan Gymorth Estynedig (TPA a CTLD), y Tîm Iechyd Anabledd Plant (CDHT) a’r Tîm o Amgylch y Teulu (TAF). Cysylltwch â’ch...

Frendz – 12-25oed

Mae hwn yn glwb ieuenctid “symudol” sy’n cwrdd gyda’r nos bob wythnos yn ystod y tymor gyda gwahanol grwpiau o bobl ifanc. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys sgïo, marchogaeth, celf a chrefft a nosweithiau ffilm. Gofynnir i aelodau beth mae nhw eisiau ei wneud. Gallwn nawr gymryd atgyfeiriadau ar-lein drwy Dîm Plant Anabl, Tîm Teulu, Mentoriaid, Gofalwyr Ifanc, Swyddogion Cynhwysiant, neu unrhyw asiantaeth arall yng Ngheredigion sy’n cefnogi pobl ifanc.

Pryd – yn ystod tymor ysgol Ceredigion

Penwythnosau i ffwrdd – 8-18

Mae grwpiau bach (hyd at 6) o bobl ifanc yn aros i ffwrdd am y penwythnos yn Nhŷ Glyn, Ciliau Aeron – byngalo wedi’i addasu’n arbennig gyda gardd synhwyraidd ar y tir. Mae’r Penwythnos DASH Away yn caniatáu i’r bobl ifanc gael seibiant byr oddiwrth eu teuluoedd tra’n cymdeithasu gyda ffrindiau a mynd ar wibdaith. Mae eu teuluoedd hefyd yn cael seibiant haeddiannol o’u cyfrifoldebau gofalu.

Pryd – Penwythnosau rheolaidd yn ystod tymor ysgol Ceredigion

Adroddiadau

No Results Found

The page you requested could not be found. Try refining your search, or use the navigation above to locate the post.

Spot – 4-25

No Results Found

The page you requested could not be found. Try refining your search, or use the navigation above to locate the post.

Ymuno

Mae Ymuno yn darparu cymorth i gael mynediad i ddarpariaeth clwb gofal plant neu gynllun chwarae lleol. Mae’r cynlluniau wedi’u cofrestru gyda AGC a gellir chwilio amdanynt trwy Wasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Ceredigion. Mae arweinydd y cynllun neu’r clwb yn ymgeisio’n uniongyrchol i DASH – byddwn yn rhoi cyfrinair iddynt ac yna gellir gwneud cais ac anfonebu ar-lein. Mae’r cynllun yn talu tuag at gost gweithiwr cymorth ychwanegol os oes angen hynny  er mwyn gwneud y cynllun yn hygyrch i blentyn anabl. Bydd y rhan fwyaf o blant sy’n defnyddio’r cynllun hwn yn cael cefnogaeth 1-i-1 llawn. Os oes angen llai o gefnogaeth, mae modd rhannu gweithwyr cymorth rhwng dau o blant – os yw arweinydd y clwb yn teimlo bod hynny’n briodol.

Pryd – Yn ystod cynlluniau chwarae ar ôl ysgol a gwyliau eraill prif ffrwd

Adroddiadau

No Results Found

The page you requested could not be found. Try refining your search, or use the navigation above to locate the post.