Sut i gael mynediad at wasanaethau DASH
Mae DASH yn elusen sy’n cael ei hariannu gan amrywiaeth o ddarparwyr grantiau ynghyd a rhoddion hael pobl Ceredigion. O’r herwydd, rhoddir blaenoriaeth i Blant sy’n byw neu’n mynychu ysgol o fewn y sir.
Rydym yn croesawu atgyfeiriadau y tu allan i’r sir, cysylltwch â ni i drafod manylion.
Atgyfeiriad gan y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cysylltwch â’ch gweithiwr allweddol neu weithiwr cymdeithasol am fwy o fanylion)
Prynu Sesiwn Yn ôl y galw (Spot Purchase)
Gallwn ddarparu sesiynau a brynir yn ôl y galw yn breifat neu drwy atgyfeiriad yr Awdurdod Lleol. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion.
Atgyfeirio trwy Glwb ar ôl ysgol neu Gynllun Chwarae.
Am fwy o wybodaeth am sut rydym yn rhedeg ein cynlluniau, gweler ein polisïau neu cysylltwch â ni.