Roedd DASH yn wych i allu mynychu cinio siarter Blynyddol Rotari Ardal Aberystwyth lle cyflwynodd y Llywydd ymadawol, Kerry Ferguson siec o £700 am arian a godwyd gan y Rotariaid dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Ben Freeman, Rheolwr DASH Ceredigion “Rydym yn ddiolchgar am waith caled y Rotariaid gyda phobl Ceredigion. Mae rhoddion yn rhan allweddol o’n cyllid ac yn helpu i ddod â chyfleoedd, annibyniaeth a hwyl i blant anabl Ceredigion.”

Mae Clwb Rotari Ardal Aberystwtyth yn grŵp newydd sy’n ehangu yn Aberystwyth. Am ragor o wybodaeth, gweler: https://www.facebook.com/ArdalAberystwythRotary/< /a>