Cyfrannu

Fel elusen, mae DASH yn dibynnu ar y rhoddion hael a geir gan unigolion a grwpiau. 

Cyfrannu ar-lein

Gallwch wneud cyfraniad untro neu reolaidd i DASH drwy LocalGiving.

Rhoi Arian

Gallwch gyfrannu’n ariannol i ni trwy un o’n blychau casglu sydd i’w cael ar draws Ceredigion.

Dysgu mwy amdanom

Ydych chi neu’ch grŵp yn ystyried cefnogi elusen? Hoffech chi i aelod o dîm DASH roi cyflwyniad i’ch grŵp am ein gweithgareddau? Cysylltwch â’r swyddfa i drefnu amser a dyddiad addas:Cysylltwch â ni

Diolch!

Diolch yn fawr i’r unigolion a’r grwpiau hyn sydd wedi dewis ein cefnogi.

DASH AR GRWYDR wythnos 5

DASH AR GRWYDR wythnos 5

Pa Wythnos a Phenwythnos y Pasg brysur! Helpodd Loraine, Gwawr, Rachel, Charlotte, L, C, CB a GJB a mwy! I gerdded 114 milltir i Towyn. Aethom heibio’r Port prysur yn llawn cychod, croesi Afon Alaw, ar hyd y arfordir hardd, gan chwilio am rai o’r creigiau hynaf yng...

DASH AR GRWYDR wythnos 4

DASH AR GRWYDR wythnos 4

Wythnos 4 83 milltir yr wythnos yma gan Gwawr, KJ a HW, Alison, Hollie, Eleri, Jack, Zoe, Ceri, Cora a Lorraine. Yn ôl ar hyd y Llyn, heibio Bad Achub Porth Dynllain a Morfa Nefyn. Mynd heibio'r lleiaf o'r Eifl – Garn For ar ein chwith. O'r diwedd awn i mewn i...

DASH Ceredigion – Amazon Smile

DASH Ceredigion – Amazon Smile

Ydych chi’n siopa gydag Amazon?Gallwch chi helpu DASH bob tro y byddwch chi’n prynu rhywbeth heb unrhyw gost ychwanegol i chi. Ewch i https://smile.amazon.co.uk/ch/1163672-0 i ddewis DASH fel eich elusen. Yna pan fyddwch chi’n siopa yn amazon, ewch i...

Diolch i BMO Coaching

Diolch i BMO Coaching

Allwch chi helpu? edrychwch ar y ddolen isod! Mae BMO Coaching yn anelu at godi arian ar gyfer dwy elusen ac ysgol gynradd leol neu glwb chwaraeon trwy gerdded / rhedeg / beicio cyfanswm pellter, ar Ap Strava o 4042km (2 x 2021km) dyma’r pellter o...