Cynlluniau Chwarae DASH a Diwrnodau Gweithgareddau

Mae DASH yn falch o ddweud ein bod yn cynnal cynlluniau haf eto eleni.

Bydd gwybodaeth am hunan-atgyfeirio i’n cynllun chwarae a diwrnodau gweithgaredd yn cael ei e-bostio gan Gymorth Estynedig (TPA a CTLD), y Tîm Iechyd Anabledd Plant (CDHT) a’r Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) wythnos yn dechrau 20/6/22.

Cysylltwch â’ch Gweithiwr Allweddol yn TPA/CTLD/CDHT/TAF i sicrhau eich bod ar eu rhestrau post.

Os nad oes gennych weithiwr penodol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol ar hyn o bryd ac yn dymuno sicrhau eich bod yn derbyn gwahoddiad, e-bostiwch tpa.request@ceredigion.gov.uk

Beth rydym yn ei wneud eleni

Amserlen Cynllun Chwarae (Gogledd)

Amserlen Cynllun Chwarae (De)

Amserlen Diwrnodau Gweithgaredd

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ein Cynlluniau Chwarae a’n diwrnodau Gweithgareddau ar eu tudalennau priodol:

Cynlluniau chwarae

Diwrnodau Gweithgareddau

Gweithio a Gwirfoddoli gyda DASH yr haf hwn

Diddordeb mewn gweithio neu wirfoddoli gyda ni? Mae gennym ni swyddi a chyfleoedd ar gael dros yr haf ac yn ystod y tymor hefyd. Cysylltwch â jobs@dashceredigion.org.uk

Cefnogi DASH

Mae DASH yn elusen. Eisiau cefnogi’r gwaith rydyn ni’n ei wneud? Cyfrannwch i DASH trwy ein tudalen LocalGiving.